Ymunwch â chydweithrediad ailgylchu wrth fynd abertawe Yn dilyn llwyddiant #LeedsByExample, rydym yn falch o'r ffaith y byddwn yn cyflwyno'r fenter ailgylchu wrth fynd yn Abertawe yn ystod yr hydref, a hynny o dan yr enw #AbertaweYnAilgylchu. Y nod yw cyflwyno’r fenter yng Nghaeredin a 10 dinas arall yn y DU hefyd dros y flwyddyn nesaf. Bydd y gwersi a ddysgwyd yn Leeds o ddefnydd wrth gyflwyno ystod o finiau ailgylchu newydd, cyfleu negeseuon a chynnal gweithgareddau yn Abertawe er mwyn gwella cyfraddau ailgylchu poteli plastig, poteli gwydr, caniau a chwpanau coffi. Byddwn hefyd yn profi isadeileddau newydd, technegau newid ymddygiad a negeseuon diddorol er mwyn sicrhau canlyniad parhaus. Byddwn yn cydweithio â phartneriaid, yn gwerthuso ac yn mesur ein heffaith yn annibynnol ac yn rhannu set gadarn o argymhellion i lywio dull newydd o ailgylchu wrth fynd. Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu’n agored er mwyn helpu trefi a dinasoedd eraill yn y DU i weithredu’r elfennau mwyaf llwyddiannus. Ymunwch â ni yn abertawe Bydd #AbertaweYnAilgylchu yn cael ei lansio ganol mis Medi, a bydd ar waith am bum mis, gan ddod â chlymblaid arloesol o sefydliadau lleol a chenedlaethol ynghyd. Mae’r bartneriaeth bresennol yn cynnwys Cyngor Dinas Abertawe, Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, Cadwch Gymru’n Daclus a Phrifysgol Abertawe. Rydym yn galw ar fusnesau a sefydliadau yng nghanol dinas Abertawe i fod yn rhan o #AbertaweYnAilgylchu – nid oes angen talu! Cewch y canlynol: Deunydd cyfathrebu am ddim, gan gynnwys pecyn adnoddau digidol, er mwyn helpu i wella cyfraddau ailgylchu drwy gyfleu neges gyson a syml ynghylch ailgylchu ledled y ddinas. Canllaw ymgysylltu â chyflogeion er mwyn rhoi gwybod i’ch cyflogeion am y broblem, yn ogystal â’u hysbrydoli i gymryd rhan a gweithredu. Canllawiau ar sut i ailgylchu cwpanau coffi. Gweithrediadau (activations) a digwyddiadau pwrpasol ar gais. Lawrlwythwch ein cynnig busnes i ddarganfod mwy am yr hyn sydd ar gael i'ch busnes. I dderbyn gwahoddiad i’r digwyddiad lansio ar ddydd Mawrth, 10 Medi, cofrestrwch eich diddordeb isod. Dywedwch fwy wrthyf am y cydweithredu READ THIS PAGE IN ENGLISH Ar hyn o bryd, mae Starbucks, Ecosurety, Asda, Bunzl, Caffè Nero, Coca-Cola GB, Costa Coffee, Danone, Grŵp Highland Spring, Innocent Drinks, Lucozade Ribena Suntory, Marks & Spencer, McDonald's, Nestlé, Pret a Shell yn cefnogi #AbertaweYnAilgylchu.